GACH

Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol Yr Heddlu

CaOyA NPAS

 1. Pam fod heddluoedd angen cefnogaeth o’r awyr
Mae cefnogaeth o’r awyr ar gyfer heddluoedd yn hollbwysig o ran taclo trosedd a diogelu’r cyhoedd:

  • Chwilio – am droseddwyr a phobl ar goll
  • Gwyliadwriaeth cyn gweithrediadau wedi’u cynllunio
  • Cefnogi gweithrediadau trefn gyhoeddus, gan gynnwys trwy fwydo lluniau fideo yn fyw i reolwyr ar y ddaear.  Cynorthwyo ag ymlidiau

 

2. Yn ystod yr adegau hyn o doriadau ariannol, oni fyddai modd arbed arian a gwneud heb yr hofrennydd – oni fyddai’n well gwario’r arian ar ragor o swyddogion rheng flaen?

Mae hofrenyddion yn darparu cefnogaeth hollbwysig ar gyfer gweithrediadau plismona ar y ddaear ac yn un o nifer o asedau allweddol sydd ar gael i’r heddlu.  Wrth chwilio am droseddwyr neu bobl ar goll gall hofrennydd chwilio ardaloedd eang y byddai fel arall angen nifer fawr o swyddogion i’w chwilio dros gyfnodau hirfaith.  Gall hofrenyddion hefyd weld mannau anodd cyrraedd atynt neu beryglus (e.e. toeau) a bydd hyn yn cynnwys y defnydd o offer datgelu isgoch.
Mewn sefyllfaoedd trefn gyhoeddus maent yn darparu – yn llythrennol – trosolwg o’r hyn sy’n digwydd gan alluogi penaethiaid i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’u hadnoddau ac ymateb yn gyflym i broblemau sy’n dod i’r amlwg.

 

3. Beth yw’r Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS)?

Gwasanaeth sy’n cael ei reoli’n genedlaethol a’i drefnu’n rhanbarthol er mwyn darparu cefnogaeth o’r awyr hollbwysig yn lleol yw’r NPAS.  Mae’n gweithredu dan Gytundeb Cydweithio Cenedlaethol ar draws ardaloedd heddluoedd Cymru a Lloegr.

Mae’r NPAS yn canolbwyntio’n benodol ar ddarparu gwasanaeth mwy cost effeithiol gan gydbwyso’r angen i arbed arian â’r angen i sicrhau bod gan wasanaeth yr heddlu ased y gellir ei roi ar waith yn gyflym er mwyn mynd i’r afael â throsedd a diogelu’r cyhoedd

Bydd yr NPAS yn sicrhau fod cefnogaeth hollbwysig o’r awyr yn parhau i gael ei darparu ble bynnag y bo hynny’n angenrheidiol gan sicrhau fod lefel uchel o hyder yn y gwasanaeth yn parhau. Bydd heddluoedd hefyd yn gallu gwneud defnydd o sawl gwahanol hofrennydd ym mhob ardal sy’n golygu y bydd ymateb yr heddlu, mewn llawer o achosion, yn well na’r ddarpariaeth flaenorol.  Bydd yr NPAS yn wasanaeth gwirioneddol genedlaethol (Cymru a Lloegr) a fydd wrth  wraidd gwella diogelwch y cyhoedd.   Bydd yn dod a gwelliannau mewn effeithiolrwydd gweithredol ac yn caniatáu contractau arloesol a fydd yn cynnig gwell gwerth am arian i’r gwasanaeth ac i’r trethdalwr.

 

4. Pam mae’r NPAS yn cael ei sefydlu

Yn 2009 canfu adolygiad cynhwysfawr a gomisiynwyd gan y Comisiynydd Bernard Hogan-Howe ddiffygion difrifol yn y trefniadau oedd yn bodoli ar y pryd ar gyfer cefnogaeth o’r awyr, a hynny o ran cost a chapasiti.  Cymeradwyodd ACPO a’r Grŵp Portffolio Plismona argymhelliad canolog yr adolygiad, sef y dylid disodli’r system bresennol â ‘gwasanaeth cenedlaethol, wedi’i gydlynu’n rhanbarthol ar gyfer ei ddarparu’n lleol’.

Yn seiliedig ar yr argymhellion hyn sefydlwyd tîm prosiect yn cynnwys ACPO a’r  Asiantaeth Genedlaethol Er Gwella Plismona gydag aelod blaen ACPO ar weithrediadau awyr, Prif Gwnstabl Heddlu Hampshire, Alex Marshall QPM yn bennaeth arno.  Yng Nghyngor y Prif Gwnstabliaid yn 2010 cytunodd pob un o 43 Prif Gwnstabl Cymru â Lleogr â’r cynnig y dylid sefydlu’r NPAS.  Ystyriwyd y cynnig y dylid sefydlu’r NPAS gan bob Awdurdod Heddlu ym Mehefin 2011.

I gefnogi’r NPAS, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud Gorchymyn yr Heddlu (Cydweithio: Swyddogaeth Benodol) 2012 dan Adran 23FA o Ddeddf yr Heddlu 1996 sy’n pennu y bydd cefnogaeth o’r awyr yn swyddogaeth a fydd yn cael ei chyflawni drwy gytundeb cydweithio cenedlaethol sengl ar gyfer Cymru a Lloegr.

 

5. Pryd fydd yr NPAS yn cael ei roi ar waith?

Bydd yr NPAS yn dod yn weithredol fesul cam rhwng Hydref 2012 a Ionawr 2015.

 

6. Beth fydd manteision gwasanaeth cenedlaethol?

  • Bydd yr NPAS yn darparu gwasanaeth cenedlaethol heb ffiniau a fydd yn gwneud defnydd o’r hofrennydd agosaf gan olygu y bydd ymateb yr heddlu, mewn llawer o achosion, yn well na’r ddarpariaeth bresennol.
  • Bydd yr NPAS yn gallu darparu gwasanaeth plismona o’r awyr o fewn 20 munud ar gyfer 98% o boblogaeth Cymru a Lloegr.
  • Bydd hofrenyddion yr NPAS wedi’u lleoli mewn 23 safle strategol a fydd yn darparu’r gallu gweithredol i roi gwell gwasanaeth i’r cyhoedd gyda’r hofrenyddion ar gael 24 awr y dydd.  Bydd hofrenyddion wrth gefn hefyd ar gael pan fydd eraill yn cael eu cynnal a’u cadw er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gwasanaeth.
  • Bydd yr NPAS yn darparu gwasanaeth mwy cost effeithiol gan gydbwyso’r angen i arbed arian yn erbyn yr angen i sicrhau fod gan yr heddlu ased y gellir ei roi ar waith yn gyflym i daclo trosedd a diogelu’r cyhoedd. Rhagwelir y bydd yr NPAS yn arbed £15 miliwn y flwyddyn o gymharu â chost y trefniadau cefnogaeth o’r awyr blaenorol pan fydd yr holl heddluoedd yn ymuno â’r NPAS.
  • Yn y tymor hirach, disgwylir y gwneir rhagor o arbedion drwy well effeithiolrwydd gweithredol a sefydliadol yn ogystal â thrwy optimeiddio’r fflyd (lleihad mewn costau cynnal a chadw a hyfforddi).

 

7. Sut yr ariennir yr NPAS?

Ariennir yr NPAS drwy gyfraniadau gan heddluoedd.  Mae model ariannu cychwynnol yr NPAS yn golygu y bydd pob heddlu yn talu llai am gefnogaeth o’r awyr nag y maent ar hyn o bryd yn ystod y cyfnod yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.  Mae’r model ariannu hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer tîm bychan o staff sy’n cwrdd â rheoliadau’r Awdurdod Hedfan Sifil ac a fydd yn sicrhau y bydd y gwasanaeth yn gallu ymateb i’r galw.

Ym mis Ionawr 2012, cyhoeddodd y Gweinidog Plismona y byddai rhan o grant cyfalaf yr heddlu ar gyfer y blynyddoedd 2014/15 yn cael ei gymryd oddi ar awdurdodau’r heddlu i’w ddefnyddio ar gyfer costau cyfalaf yr NPAS (mae hyn yn cynnwys prynu hofrenyddion a chostau ailddatblygu neu symud safleoedd) 

 

8. Pa arbedion effeithiolrwydd sy’n gysylltiedig â sefydlu’r NPAS?

Unwaith y bydd yr holl heddluoedd wedi ymuno â’r NPAS bydd hyn yn arbed tua £15 miliwn y flwyddyn o gymharu â’r trefniadau blaenorol ar gyfer cefnogaeth o’r awyr.  Yn y tymor hirach, disgwylir y gwneir rhagor o arbedion ariannol drwy effeithlonrwydd gweithredol a sefydliadol yn ogystal â thrwy fod â fflyd lai o hofrenyddion (gan leihau costau cynnal a chadw a hyfforddi).

Mae arbedion arwyddocaol eisoes wedi eu gwneud wrth i nifer o heddluoedd ddechrau gweithredu yn unol ag egwyddorion yr NPAS, er enghraifft mae rhanbarthauGogledd Orllewin a Chanolbarth Lloegr yn gweithredu heb ffiniau ac mae unedau cefnogaeth o’r awyr Glannau Mersi a Swydd Gaergrawnt eisoes wedi eu diddymu (mae hofrennydd Swydd Gaergrawnt yn cael ei defnyddio fel hofrennydd wrth gefn ar gyfer yr NPAS).

Unwaith y bydd pob heddlu wedi ymuno â’r NPAS bydd hyn yn rhoi cyfle i wireddu gweddill yr arbedion ariannol dichonol.

 

9. Sut wyddoch chi y bydd yr NPAS gweithio?

Rhoddwyd peilot o’r cynllun arfaethedig ar waith rhwng Ebrill a Mehefin 2010 a oedd yn cynnwys unedau cefnogaeth o’r awyr heddluoedd Norfolk, Suffolk, Essex, Caint a Swydd Gaergrawnt.  Enw’r ymgyrch oedd ‘Ymgyrch Dim Ffiniau’ ac fel rhan o’r peilot roedd y pedwar hofrennydd yn cael eu rheoli o bwynt canolog.  Profodd yr ymgyrch fod tasgio ar draws ffiniau yn gweithio ac yn gwella effeithiolrwydd cefnogaeth o’r awyr.

Yn fwy diweddar, ers Gorffennaf 2011, mae Unedau Cefnogaeth o’r Awyr Gorllewin, Dwyrain a Gogledd Canolbarth Lloegr ac Uned y Siroedd Canolog wedi uno i ffurfio Uned y Rhanbarth Canolog yn unol â’r cynigon ar gyfer NPAS.  Mae’r Rhanbarth Canolog yn gweithredu ar draws ffiniau heddluoedd drwy anfon yr hofrennydd agosaf sydd ar gael i ddarparu cefnogaeth o’r awyr.  Mae hyn hefyd yn golygu y bydd mwy o hofrenyddion ar gael yn gyffredinol ac yn sicrhau y bydd cefnogaeth o’r awyr yn parhau i fod ar gael i gynorthwyo mewn digwyddiadau difrifol  24 awr y dydd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd Gogledd Orllewin Lloegr hefyd wedi uno i ffurfio gwasanaeth dosbarthu a thasgio heb ffiniau, sef Grŵp Gweithrediadau Awyr y Gogledd Orllewin (NWAOG).  Mae  Gogledd Cymru, Swydd Gaer, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi a Swydd Gaerhirfryn erbyn hyn yn cael gwasanaeth o’r awyr gan bedwar hofrennydd sy’n gweithio ar draws ffiniau’r rhanbarth.  Mae’r gwasanaeth yn y  safleoedd yn cychwyn ar adegau gwahanol fel nad oes unrhyw gyfnod o fewn 24 awr pan nad yw gwasanaeth hofrennydd ar gael.  Mae’r patrwm sifft newydd hefyd yn sicrhau bod y gwasanaeth gorau ar gael ar adegau brig.  Drwy dasgio heb ffiniau, mae heddluoedd cyfranogol wedi gweld gostyngiad o 10% mewn amseroedd hedfan o ganlyniad i dasgio a dosbarth deallus.

 

10. Lle mae’r safleoedd newydd?

Dan yr NPAS y bwriad yw y bydd 23 safle cefnogaeth o’r awyr mewn lleoliadau strategol er mwyn sicrhau gallu gweithredol sy’n cynnig gwell gwasanaeth.  Y lleoliadau yw:

Barton, Manceinion Fwyaf
Benson, Swydd Rhydychen
Birmingham, Gorllewin Canolbarth Lloegr
Boreham, Essex
Bournemouth, Dorset
Wakefield, Gorllewin Swydd Efrog
Durham, Tees Valley, Teeside
Exeter, Dyfnaint
Halfpenny Green, Wolverhampton
Penarlâg, Swydd Gaer
Wattisham, Suffolk
Humberside
Husbands Bosworth, Swydd Gaerlŷr
Lippitt’s Hill, Essex
Newcastle, Northumbria
Pembrey, Dyfed-Powys
Redhill, Surrey
Rhuddlan, Sir Ddinbych
Ripley, Swydd Derby
Sheffield, De Swydd Efrog
Saint Athan, Bro Morgannwg, De Cymru
Warton, Swydd Gaerhirfryn

 

11. A fydd rhagor o newidiadau i’r safleoedd neu i’r nifer o hofrenyddion?

Dan gytundeb cydweithio’r NPAS ar gyfer cefnogaeth o’r awyr yr heddlu, Bwrdd Strategol yr NPAS fydd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau pellach.

 

12. Pwy fydd yn gyfrifol am wasanaeth a gweithrediad yr NPAS?

Bydd yr NPAS yn cael ei ddarparu’r drwy’r model heddlu arweiniol.  Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi cytuno mai Heddlu Gogledd Swydd Efrog fydd yr heddlu lletyol ar gyfer yr NPAS.  Bydd hyn yn sicrhau mai gwasanaeth yr heddlu sy’n arwain ac yn berchen ar yr NPAS a bod y manteision gweithredol a’r arbedion ariannol a gyflwynwyd i awdurdodau heddluoedd unigol cyn sefydliad y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu gwireddu.

 

13. Beth fyddai’n digwydd pe na bai’r NPAS yn mynd ar waith?

Byddai methu â darparu’r NPAS yn cael effaith arwyddocaol ar blismona a threfn gyhoeddus.  Mae’n cynnig swyddogaeth werthfawr a hyblyg iawn i wasanaeth yr heddlu y gellir ei ddefnyddio yn effeithiol iawn wrth chwilio am bobl ar goll, plismona digwyddiadau trefn gyhoeddus a dal troseddwyr peryglus heb beryglu’r cyhoedd.  Gallai peidio â sefydlu’r NPAS hefyd olygu na fydd modd gwneud y toriadau ariannol angenrheidiol – gan olygu y bydd gwasanaethau rheng flaen eraill yn gorfod dioddef rhagor o doriadau.

 

14. Faint o heddluoedd fydd yn ymuno yn yr NPAS?

Er mwyn gwireddu manteision dynodedig yr NPAS mae angen iddo fod yn wasanaeth gwirioneddol genedlaethol.  Mae’r NPAS yn gyfle i wasanaeth yr heddlu arwain y ffordd o ran datblygu ymdriniaeth gydlynol a chydweithredol tuag at ofyniad plismona strategol.  I gefnogi’r NPAS gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Orchymyn Plismona (Cydweithio: Swyddogaeth Benodol) 2012 dan Adran 23FA o Ddeddf yr Heddlu 1996, yn pennu bod cefnogaeth o’r awyr yn swyddogaeth genedlaethol hollbwysig i’w darparu drwy un cytundeb cydweithredu cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr.  Bydd disgwyl felly i bob heddlu a chorff plismona ymuno â’r NPAS er mwyn sicrhau gwasanaeth gwirioneddol genedlaethol a drefnir yn rhanbarthol ac a ddarperir yn lleol.

 

15. Sut mae hyn yn ffitio i mewn gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh)?

Bydd CHTh yn bartïon yng Nghytundeb Cydweithredu’r NPAS ac yn chwarae rhan allweddol yn llywodraethiad cyffredinol Bwrdd Strategol yr NPAS fel y’i nodir yng Nghytundeb Cydweithio’r NPAS.