GACH

Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol Yr Heddlu

CHTh Gorllewin Swydd Efrog

Cefndir

Mae dilyn y model ‘heddlu arweiniol’ yn golygu bod yr NPAS yn cael ei arwain gan ac yn perthyn i’r gwasanaeth heddlu lleol ac y gwireddir y manteision gweithredol a’r arbedion ariannol yr oedd yn ofynnol i bob corff plismona unigol eu gwneud.

Mae’r NPAS yn gweithredu dan Gytundeb Cydweithio Cenedlaethol sy’n berthnasol i bob corff plismona yng Nghymru a Lloegr. Yn cynnal y cytundeb mae Gorchymyn yr Heddlu (Cydweithio: Swyddogaeth Benodol) 2012 dan Adran 23FA o Ddeddf yr Heddlu 1996, sy’n nodi bod cefnogaeth o’r awyr yn swyddogaeth hollbwysig y dylid ei chyflawni drwy un cytundeb cydweithio cenedlaethol sengl.

Bydd disgwyl felly i bob corff plismona a heddlu yng Nghymru a Lloegr ymuno â’r NPAS er mwyn sicrhau gwasanaeth gwirioneddol genedlaethol a bydd hyn yn cael ei roi ar waith fesul cam drwy’r rhanbarthau o Hydref 2012 tan Ionawr 2015.

Chief Supertindent Ian Whitehouse, Mark Burns Williamson, Chief Constable Mark Gilmore


Cymeradwywyd a chyflwynwyd yr NPAS gan y llywodraeth diwethaf - cytunodd Awdurdod Heddlu Gorllewin Swydd Efrog i fod yn heddlu blaen ar gyfer yr NPAS yn Awst 2012

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gorllewin Swydd Efrog, Mark Burns Williamson, sy’n chwarae’r rôl arweiniol o ran llywodraethu’r NPAS ac sy’n cadeirio’r Bwrdd Strategol.  Oherwydd mai cysyniad yn hytrach nag endid cyfreithiol yw’r NPAS, ni all fod yn berchen ar eiddo na chyflogi pobl – CHTh a PG Gogledd Swydd Efrog sydd felly yn gwneud hyn ar ran gweddill Cymru a Lloegr.   Y CHTh sy’n berchen ar yr hofrenyddion a chontractau gweithredu’r NPAS a’r PG yw cyflogwr y staff.

Yn 2009, adolygodd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (CPSH/ACPO)  Strategaeth Gweithrediadau Awyr Cenedlaethol 1993.  Casgliad yr adolygiad oedd bod y trefniadau a oedd yn bodoli ar y pryd ar gyfer darparu cefnogaeth o’r awyr yn dameidiog iawn ac nad oeddynt yn darparu gwerth am arian.

Yn Hydref 2010, cyflwynodd Prif Gwnstabl Alex Marshall, fel daliwr Portffolio Hedfan ACPO, bapur yng Nghyngor y Prif Gwnstabliaid yn amlinellu’r cynigion ar gyfer Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol.  Egwyddor sylfaenol yr NPAS yw ei fod yn wasanaeth cenedlaethol a gydlynir yn rhanbarthol ar gyfer ei ddarparu’n lleol.

Mae’r NPAS wedi’i gymeradwyo gan bob prif gwnstabl ac mae ganddo gefnogaeth weinidogol gref.

 

Sut y cymerodd Heddlu Gogledd Swydd Efrog a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Swydd Efrog gyfrifoldeb am yr NPAS

Mae Mr Burns Williamson yn pwysleisio pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth yn genedlaethol:

“Mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu erbyn hyn wedi’i wreiddio yn nhrefniadau plismona Gogledd Swydd Efrog ac yn wasanaeth hollbwysig” meddai.

“Unwaith y bydd yr NPAS ar waith yn llawn, a gyda chefnogaeth barhaus y Swyddfa Gartref, bydd y gwasanaeth yn gallu cyrraedd 98% o’r boblogaeth o fewn 20 munud o amser hedfan ac fe ddylai arbed o leiaf £15miliwn y flwyddyn yn  ystod y cam cyntaf.

“Datblygwyd y cysyniad o Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yn 2009 a'r gobaith yw y bydd yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau hedfan safon uchel ar gyfer plismona ac ar gyfer gwasanaethau ‘golau glas’ eraill hefyd maes o law.

“Hyd yn hyn gwnaed arbedion sylweddol drwy sefydliad yr NPAS, gyda threfniadau yswiriant newydd wedi arbed £1miliwn yng Ngogledd Swydd Efrog, a thua £15 miliwn o arbedion wedi eu gwneud ar draws Cymru a Lloegr.  Y nod oedd darparu gallu plismona mwy effeithiol ac effeithlon o’r awyr.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi fod gwaith yn parhau i gael ei wneud er mwyn gweithredu’r gwasanaeth yn llawn ar draws Cymru a Lloegr er mwyn sicrhau holl fanteision ariannol y model darparu newydd ar  gyfer ein holl gymunedau a’u gwahanol anghenion.

“Rydym eisiau cynnig gwasanaeth cenedlaethol sy’n gwneud y mwyaf o fanteision cefnogaeth o’r awyr i ddarpariaeth gwasanaethau rheng flaen.  Rydw i’n falch o’r gwaith y mae ein heddlu ni wedi ei wneud fel heddlu arweiniol, a’r gwaith y mae’r tîm prosiect cenedlaethol a’m swyddfa i fy hun wedi ei wneud hyd yma i ddarparu gwasanaeth sy’n gweithredu ar draws ffiniau’r heddlu er mwyn sicrhau bod Cymru a Lloegr yn fwy diogel ac yn teimlo’n fwy diogel.”